top of page
4B.jpg

Estyniad nenfwd cromennog mewn cartref newydd i deulu sy'n tyfu

ESTYNIAD TO PîG

​​

Nod y prosiect hwn oedd i ehangu ac ad-drefnu ty maestrefol i ddarparu ystafelloedd addasadwy a deniadol ar gyfer teulu ifanc sy'n tyfu. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i'w gwblhau fesul cam, sydd yn ddull sy'n galluogi y cleient i esblygu y ty mewn cytgord ag anghenion ac amgylchiadau'r teulu dros amser.

 

Mae'r estyniad newydd yn trawsnewid cefn y cartref: mae to pîg wedi'i gydweddu'n fewnol â nenfwd cromennog yn creu ymdeimlad o ehangder a diddordeb. Mae'r dewis hwn o ddyluniad yn gwella'r hyn a allai fod yn gynllun confensiynol, gan ei ddyrchafu'n ofod deinamig. Mae ffenestri to yn atalnodi'r nenfwd mewn lleoliadau strategol i dynnu golau naturiol yn ddyfnach i'r cartref, gan sicrhau bod ardaloedd allweddol yn olau ac yn ddeniadol trwy gydol y dydd.

 

Ceir cysylltiad gweledol a chorfforol â'r ardd trwy dri drws gwydr llithro mawr ar hyd lled llawn y wal gefn. Mae’r agoriad eang hwn yn diddymu’r ffin rhwng y tu fewn a’r tu allan sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw rôl gardd i deulu ifanc; yn dod yn estyniad i'r mannau chwarae mewnol.

bottom of page