

AMDANOM NI
Rydym ni (Katherine Jones a Sion Llwyd) yn Benseiri siartredig wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, De Cymru. Rydym yn frwd dros baru dyluniadau modern gyda gwerthfawrogiad parchus o adeiladau presennol ar draws prosiectau o bob maint. Boed chi'n ystyried estyniad bach, gwaith adnewyddu neu adeilad newydd, rydyn ni'n ei gwneud hi'n flaenoriaeth i ni ddarganfod eiliadau o lawenydd a hwyl ym mhob prosiect. Rydym yn ymdrin â phob briff yn wahanol a chyda gwerthusiad personol sy'n adlewyrchu gwahanol friffiau ein cleientiaid, cymeriadau eu cartrefi a chyd-destun y safle. Gyda'n blynyddoedd o brofiad, rydym yn hyderus yn trawsnewid tai yn gartrefi hardd, ymarferol gyda manylion modern coeth.
Rydym yn dîm bach yn fwriadol, felly gallwch fod yn hyderus eich bod yn delio â ni yn uniongyrchol. Rydyn ni'n gweithio trwy bob elfen o'r dyluniad ein hunain, ochr yn ochr â chi. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyfathrebwyr clir a fydd yn eich arwain trwy'r hyn a all ymddangos yn dasg argoelus i rai. Ar bob cam o'r prosiect rydym yn darparu dogfennau manwl a chyngor i wneud y broses yn union yr hyn y dylai fod - yn hwyl ac yn gyffrous. Ar bob cam rydym hefyd yn rhoi map-ffordd i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ac i wneud i'r broses lifo'n rhwydd. Rydym yn credu mai fel tîm y mae'n well mynd i'r afael â phensaernïaeth, ac felly rydym yn rhoi pwyslais ar gydweithio ag ymgynghorwyr a chontractwyr i reoli'r prosiect trwy'r broses gynllunio hyd at ei gwblhau ar safle.
Bu’r ddau ohonom yn astudio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yng Nghaerdydd am saith mlynedd, gan ennill tair gradd ar hyd y ffordd. Ers cymhwyso fel Penseiri siartredig, rydym wedi gweithio i wahanol bractisau pensaernïaeth masnachol a phreswyl yn Llundain a Chaerdydd: mae profiad Katherine yn amrywio o’r practis pensaernïaeth mwyaf yn Foster + Partners i wirfoddoli gyda’r elusen pensaernïaeth ddyngarol, Erthygl 25, yn ogystal â gweithio i gwmniau llai rhyngthynt. Mae Sion wedi gweithio ar sectorau mor amrywiol â gorsafoedd trenau, labordai a gwestai. Fe ddechreuon ni gwmni Llwyd Jones o'n hangerdd am bensaernïaeth breswyl bwrpasol a sut gall ein dyluniadau gael effaith gadarnhaol ar y ffordd y mae cleientiaid yn defnyddio ac yn teimlo am eu cartrefi.
Yn ogystal â bod yn benseiri mae'r ddau ohonom yn artistiaid. Mae gwaith Sion mewn darlunio ac fel artist portreadau, yn aml yn ailadroddus ac yn gweithio ochr yn ochr â’r bensaernïaeth, gan ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy megis dehongli a phrofi briff gan gleient. Mae Katherine yn creu darluniau cywrain, manwl sy'n cysylltu pobl â'r lleoedd maen nhw'n eu caru. Ar ôl cael ei dylanwadu’n fawr gan ei chefndir pensaernïol, mae hi wedi creu comisiynau ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Eglwys Gadeiriol St Paul, Tower Bridge, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys Waddesdon Manor. Gallwch weld mwy o'i gwaith yn www.katherinemgjones.com