
Sedd ffenestr wedi'i gosod yn yr ardd, yn gwneud y mwyaf o olau, cynhesrwydd a chysur
YSTAFELL ARDD
Nody prosiect hwn oedd i ddylunio estyniad newydd i gymryd lle ystafell wydr hen ffasiwn a oedd wedi dod yn fwy ac yn fwy anghyfforddus. Byddai'r ystafell wydr wreiddiol yn gorboethi yn yr haf ac yn rhewi yn y gaeaf, ond roedd y cleient yn awyddus i gadw'r golau a oedd yn cael ei ddarparu yn ddyfnach i'r ty. Cynigiom ddyluniad a fyddai'n adeiladu ar yr ôl troed presennol, gan leihau'r angen am waith sylfaenol helaeth. Mae'r estyniad newydd yn ffurf syml, ddiymhongar, gan ganolbwyntio yn hytrach ar greu awyrgylch mewnol cynnes, ymarferol a chlyd.
Prif nodwedd yr estyniad yw sedd ffenestr gyfforddus sy'n cynnwys ffenestr llithro fawr a all agor yn llawn i'r tu allan. Mae’r cysylltiad di-dor hwn gyda’r awyr agored yn cynnig i’n cleient - sy’n caru bywyd gwyllt - y cysur o fod y tu mewn gyda’r teimlad o ymgolli yn eu gardd sy’n gyfeillgar i natur.





