
Adnewyddu ty maestrefol yn gartref chwareus, lliwgar
CEGIN LLIW
Er bod cartrefi maestrefol newydd yn ymarferol, gallant weithiau fod yn brin o wreiddioldeb. Roedd y cleientiaid ar gyfer yr ad-drefnu hwn o dy ger Caerdydd am wasgu cymaint o lawenydd â phosibl i mewn i gragen presennol y ty. Yn hytrach nag ymestyn, daeth i’r amlwg fod y gofod yno eisoes, ond ei fod wedi’i rannu’n dri ystafell fechan. Buom yn gweithio gyda'n cleientiaid i ailwampio cefn y ty yn gyfan i greu ystafell fyw gyfoes fawr, cegin a lle bwyta, gan wella llif drwy'r cartref.
Manteisiwyd ar bob cyfle a roddwyd i ni i ychwanegu elfennau dylunio chwareus: Mae ffenestr oriel gyfoes yn disodli'r ffenestr bresennol, sy'n ymddangos fel pe bai'n hedfan uwchben y llawr yn allanol; mae ffenestr 'blwch llythyrau' rhwng cypyrddau'r gegin yn dod â golau naturiol i gorneli tywyll; ac mae drysau llithro mawr yn disodli'r ffenestr fae bresennol, gan uno byw dan do ac awyr agored yn ddi-dor.
Defnyddiwyd lliw yn feddylgar trwy gydol yr elfennau gwaith saer pwrpasol sy'n adlewyrchu synnwyr o hwyl y cleientiaid i'r cynllyn. Mae'r elfennau chwareus hyn ar yr un pryd yn cuddio annibendod ac yn arddangos gwrthrychau pwysig eraill.
TYSTEB Y CLEIENTIAID
"Rydym wrth ein bodd gyda trawsnewidiad ein cartref. Roeddem ni'n gwybod y byddai cynllun agored yn rhoi mwy o le i ni ei ddefnyddio, ond roedd y dyluniad a gyflwynwyd gan Katherine yn mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau. Fel addaswyr cartref am y tro cyntaf roedd ein syniadau yn eithaf niwlog o'r hyn roedden ni eisiau, felly roeddem yn croesawu dulliau Katherine. O'r cychwyn cyntaf roeddem yn teimlo ein bod wedi ymgysylltu â rhywun a fyddai'n cymryd amser i ddarganfod beth oedd yn wirioneddol bwysig i ni.
Roedd ei gwybodaeth yn amhrisiadwy i’n helpu i benderfynu ar ystyriaethau pwysig. Roedd y cynlluniau, a dyfodd o bedwar cynllun cychwynnol tra gwahanol, yn mynd i’r afael â’r holl faterion a nodwyd yn ystod ymweliad cyntaf Katherine. Roeddem yn gwerthfawrogi’n fawr ei darluniau manwl, y syniadau a oedd ganddi, a’r ffordd yr oedd yn dehongli ein syniadau ein hunain. Tua diwedd y broses ddylunio lluniodd argraff o sut olwg fyddai ar y gofod newydd, a oedd yn ddefnyddiol iawn i ni allu dychmygu sut le fyddai'r gofod gorffenedig.
Nawr mae'r prosiect wedi'i gwblhau; mae ein hystafell fwyta fach a'r gegin gyda chorneli tywyll a gofod wedi'i wastraffu wedi mynd, ynghyd â'r 'snug' a oedd yn lwybr cerdded i'r ardd. Mae’r cyfan wedi’i ddisodli gan gegin/ystafell fwyta lachar a 'snug' wedi’i thrawsnewid gyda sedd ffenestr. Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’n ty ac rydym mor hapus ag ef. Diolch yn fawr i Katherine, Sion a’r holl weithwyr proffesiynol a weithiodd ar y prosiect.”
Mari & Jonathan