top of page

Cartref naturiol, cynaliadwy, heddychlon i roi dechrau newydd i hen gwn

CARTREF AR GYFER MILGWN

Daeth Achub Milgwn Cymru atom gyda briff diddorol i ehangu eu cyfleuster trwy ddyblu nifer yr unedau yn eu cenelau tra’n codi safon lles y cwn tu hwnt i’r safonau uchaf. Mae’r dyluniad yn canolbwyntio ar greu gofod cynaliadwy o’r radd flaenaf sydd nid yn unig yn cwrdd ac anghenion ymarferol y cwn ond sydd hefyd yn cynnig amgylchedd cyfforddus a diogel i ymwelwyr a staff yn yr un modd.

 

Mae'r adeilad wedi'i orchuddio â chladin pren cyfoes sydd â phroffil cul, tra bod to trawiadol wedi'i orchuddio â sinc tywyll yn creu dehongliad cyfoes o'r steil werin amaethyddol draddodiadol. Rhennir yr adeilad yn dair ardal penodol: dwy adain ar gyfer y cenelau, pob un yn cynnig mannau mewnol a lled-allanol ar gyfer y cwn, a thrydydd rhan wedi'i neilltuo ar gyfer swyddogaethau ategol, gan gynnwys mannau blaen-ty ar gyfer rhyngweithio ymwelwyr. Mae’r ardal ymwelwyr hon yn rhan hanfodol o’r cynllun, gan gynnig man tawel a chroesawgar i ddarpar fabwysiadwyr gyfarfod ac ymgysylltu â’r cwn, gan sicrhau eu bod yn gallu ffurfio cysylltiadau ystyrlon mewn lleoliad diogel a heddychlon. Mae lles a diogelwch cwn wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y broses ddylunio. Mae'r adeilad yn cynnwys haenau i sicrhau diogelwch y cwn, y staff, ac ymwelwyr, tra bod y cynllun cyffredinol yn hyrwyddo lles yr anifeiliaid trwy ganiatau ar gyfer enciliad preifat a rhyngweithio cymdeithasol.

 

Mae cynaliadwyedd hefyd yn ffocws allweddol i'r prosiect. Mae paneli solar yn darparu ynni adnewyddadwy, tra bod blychau ystlumod ac adar integredig o fewn y cladin yn cefnogi bioamrywiaeth. Mae’r tirwedd o amgylch yr adeilad wedi’i ddylunio’n ofalus i gynorthwyo draenio a chadw dwr, gan ymgorffori elfennau naturiol sydd o fudd i’r amgylchedd a’r cwn. Mae gardd synhwyraidd, sydd wedi’i dylunio’n ofalus i helpu i dawelu ac ysgogi cwn o gefndiroedd heriol neu esgeulus, yn nodwedd ganolog o’r tirwedd, gan gynnig lle therapiwtig i anifeiliaid ymlacio a chael cysur.

 

O’r astudiaethau cychwynnol hyd at y cais cynllunio a’r dyluniad technegol , buom yn gweithio’n agos gydag Achub Milgwn Cymru i sicrhau bod yr adeilad newydd yn cwrdd ac anghenion unigryw y staff a'r cwn. Roedd ymgynghoriad helaeth gyda'r elusen yn sicrhau bod pob agwedd o'r cynllun yn adlewyrchu eu cenhadaeth i ddarparu gofal o'r safon uchaf. Mae'r adeilad a ddeilliodd o hyn yn adeilad meddylgar, arloesol a chynaliadwy sy'n gwella lles cwn tra'n ffitio'n ddi-dor i'w gyd-destun gwledig, gan gefnogi ymdrechion parhaus yr elusen i ofalu am filgwn mewn angen a'u hailgartrefu.

bottom of page